Dewislen Hunanreoli o Raglenni Addysg Strwythuredig
Dewislen Hunanreoli o Raglenni Addysg Strwythuredig
Mae'r holl gyrsiau yn rhaglenni strwythuredig achrededig cenedlaethol,sy'n destun sicrwydd ansawdd ac yn cael eu gwerthuso'n ffurfiol.
I holi ynghylch archebu lle ar unrhyw un o'r cyrsiau hunanreoli hyn, cysylltwch â Rhaglenni Addysg i Gleifion ar 01554 899035, neu anfonwch neges e-bost atom yn: eppcymru.hyweldda@wales.nhs.uk
'Eich helpu i fyw eich bywyd yn eich ffordd eich hun’
Yr Opsiwn Hunanreoli |
Manylion y Cwrs |
Pum Ffordd Tuag at Les |
Mae'r cwrs Pum Ffordd Tuag at Les yn addas ar gyfer pawb – yn hen ac ifanc, yn sâl neu'n iach. Gall pob un ohonom elwa ar sesiwn ymwybyddiaeth fer ar ein hiechyd a'n lles gyda'r pum cyngor syml hyn. Mae'r sesiwn yn para tua 45 munud ac mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer timau o staff neu grwpiau cymorth i gyflwyno'r syniad o gymryd cyfrifoldeb am eich iechyd a'ch lles eich hun. Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg. |
Cyflwyniad i Iechyd a Lles (Cyflwyniad i Hunanreoli (ISM) |
Sesiwn ragarweiniol deirawr yw hon, ar gyfer unrhyw un sydd ag unrhyw gyflwr iechyd hirdymor a/neu ofalwyr. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg.
|
Cyflwyniad i Iechyd a Lles ar gyfer Gofalwyr (I to LAM) |
Sesiwn deirawr yw hon, sy'n cyflwyno gofalwyr i sgiliau i gefnogi iechyd a lles, ac sy'n datblygu eu sgiliau hunanreoli. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg. |
Cyflwyniad i Hunanreoli Clefyd Niwronau Motor (MND ISM) |
Sesiwn ragarweiniol deirawr ar hunanreoli yw hon, ar gyfer unrhyw un sy'n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor (MND) Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg. |
Hyder o ran Ymataliaeth |
Sesiwn ragarweiniol 2 awr a ½ i 3 awr yw hon ar gyfer unrhyw un sydd â phroblemau ymataliaeth neu unrhyw un a hoffai wybod rhagor am faterion yn ymwneud ag ymataliaeth a sut y mae ei reoli. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg. |
Yr Opsiwn Hunanreoli |
Manylion y Cwrs |
Byw gyda Lymffoedema |
Sesiwn 2 awr yw hon ar gyfer unrhyw un sy'n byw gyda materion yn ymwneud ag ymataliaeth. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg gyda chefnogaeth Ymarferydd Cynorthwyol Lymffoedema.
|
Adnabod eich Risgiau |
Mae'r sesiwn hon yn cael ei chynnal fel sesiwn galw heibio ar gyfer unrhyw un sydd am gael gwybod am ei risg o ddatblygu Diabetes Math 2, a hynny trwy drafod yr hyn y mae bod mewn perygl yn ei olygu, sut y mae gwneud newidiadau i leihau risgiau, a sut i gael rhagor o gymorth.
|
Heneiddio'n Iach |
Sesiwn 2 awr yw hon i unrhyw un a hoffai ddysgu ffyrdd i edrych ar ôl ei hun wrth heneiddio a lleihau'r arwyddion o eiddilwch. Dyma rai o’r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg.
|
Troedio'n Iach |
Mae hon yn sesiwn ryngweithiol, am 1 awr a ½ i 2 awr, ar ofalu am eich traed, ar gyfer pawb y tybir bod eu risg yn isel mewn perthynas â'r gwasanaeth podiatreg, neu'r rheiny yr ystyrir nad oes angen iddynt gael gwasanaeth podiatreg. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg gyda chefnogaeth podiatrydd.
|
STANCE |
Mae hon yn sesiwn awr a 1/2 i 2 awr o hyd ar gyfer unrhyw un sy'n byw â Diabetes. Bydd y sesiwn yn cyflwyno gwybodaeth am ddiabetes a'r modd y mae'n effeithio ar eich traed, a sut y mae lleihau'r risgiau o gymhlethdodau pellach. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg gyda chefnogaeth podiatrydd.
|
Yr Opsiwn Hunanreoli |
Manylion y Cwrs |
Cwrs Iechyd a Lles (CDSMP) |
Mae hwn yn rhaglen hunanreoli chwe wythnos o hyd, am 2 awr a ½ yr wythnos, ar gyfer pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg. |
Byw gyda Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) |
Rhaglen hunanreoli 7 wythnos, am 1 awr a ½ yr wythnos yw hon, ar gyfer unrhyw un sy'n byw gyda Chlefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (gan gynnwys diffyg anadl). Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu: * Beth yw COPD? * Cynllunio a datrys problemau * Delio ag emosiynau anodd * Rheoli gweithgareddau dyddiol * Gweithio gyda'ch gweithiwr gofal Iechyd Proffesiynol Cyflwynir y cwrs hwn gan ddau diwtor; un Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol ac un Tiwtor Lleyg. |
Bwyd Doeth am Byth
Rhaglen Reoli Pwysau |
Rhaglen hunanreoli wyth wythnos o hyd yw hon, am 1 awr a ½ yr wythnos. Mae'n rhaglen ar gyfer unrhyw un sydd â BMI o 25 neu uwch, ac, mewn rhai ardaloedd, rydym hefyd yn recriwtio'r rhai hynny sydd â HbA1c o 42-47mmol/môl, yn ogystal â BMI o 25 neu uwch. Yn cynnwys y rheiny a ystyrir yn gyn-ddiabetig. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan Ymarferwyr Cynorthwyol Deieteg.
|
Rhaglen Diabetes X-Pert (X-PERT) |
Mae hon yn rhaglen hunanreoli chwe wythnos o hyd, am 2 awr a ½ yr wythnos, ar gyfer unrhyw un sydd â Diabetes Math 2. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan Nyrsys Arbenigol Diabetes a Deietegwyr Arbenigol Diabetes.
|
Yr Opsiwn Hunanreoli |
Manylion y Cwrs |
Rhaglen Diabetes X-Pert Inswlin (X-PERT Inswlin) |
Mae hon yn rhaglen hunanreoli chwe wythnos o hyd, am 2 awr a ½ yr wythnos, ar gyfer unrhyw un â Diabetes sydd ar inswlin. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan Nyrsys Arbenigol Diabetes a Deietegwyr Arbenigol Diabetes.
|
Rhaglen Hunanreoli Diabetes (DSMP) |
Mae hwn yn gwrs hunanreoli chwe wythnos o hyd, am 2 awr a ½ yr wythnos, ar gyfer unrhyw un sydd â Diabetes Math 2 (heb fod yn ddibynnol ar inswlin) Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan ddau diwtor leyg sydd â phrofiad o fyw gyda diabetes Math 2.
|
Canser: Ffynnu a Goroesi |
Rhaglen hunanreoli chwe wythnos o hyd, am 2 awr a ½ yr wythnos yw hon, ar gyfer unrhyw un sydd wedi goroesi canser ac a hoffai gael cymorth i fynd yn ôl i'r drefn ddyddiol arferol Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg.
|
Rhaglen Sylfaen ar gyfer Rheoli Poen |
Mae hon yn rhaglen hunanreoli chwe wythnos o hyd, am 2 awr a ½ yr wythnos, ar gyfer unrhyw un sydd â phoen gronig. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg.
|
Yr Opsiwn Hunanreoli |
Manylion y Cwrs |
Gofalu Amdanaf Fi a Chi |
Mae hwn yn gwrs chwe wythnos o hyd, am 2 awr a ½ yr wythnos, ar gyfer unrhyw un sy'n gofalu am rywun â chyflyrau iechyd hirdymor. Mae'r cwrs yn anelu at gynyddu eich sgiliau i gefnogi iechyd a lles a datblygu eich sgiliau hunanreoli. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu:
Cyflw ynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg. |
Rhaglen Hunanreoli Clefydau Cronig yn y gweithle (CDSMP) |
Mae'r cwrs hwn wedi'i addasu o'r CDSMP chwe wythnos i gyd-fynd â gofynion amser gweithleoedd. Mae'r sesiynau'n para awr ac yn cwrdd ddwywaith yr wythnos am chwe wythnos. Dyma rai o'r meysydd yr ydym yn eu cwmpasu;
Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtor lleyg. |
COVID Hir
|
Sesiwn 2 - 2 ½ awr i unrhyw un sy'n byw gydag ôl-effeithiau COVID 19 o'r enw COVID hir Dyma rai o'r meysydd dan sylw: • Beth yw Covid Hir a'r Symptomau • Rheoli'r Symptomau • Delio â hwyliau isel ac iselder • Pryd i geisio cymorth Cyflwynir y cwrs hwn gan diwtoriaid Lleyg |