Gall pobl sy’n pryderu am symptomau canser yr ysgyfaint nawr ddefnyddio Llinell Asesu Symptomau Canser yr Ysgyfaint (LUMEN), sy’n darparu pwynt mynediad i bobl siarad â nyrs arbenigol i drafod eu symptomau a chael eu hatgyfeirio i gael Pelydr-X o’r frest, os oes angen, i ymchwilio i’w symptomau.

Mae'r gwasanaeth a ariennir gan Moondance Cancer Initiative, yn agored i bobl sydd wedi cofrestru gyda meddygfa yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i fynd i’r afael â’u pryderon am symptomau posibl Canser yr Ysgyfaint a dysgu mwy am y Gwasanaeth LUMEN a sut y gall helpu.

Mae LUMEN ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu yn ardal BIP Hywel Dda, sy’n 40 oed neu’n hŷn, ac sydd ag unrhyw un o’r symptomau hyn:

  • Peswch (mwy na 3 wythnos)
  • Colli pwysau heb geisio
  • Prinder anadl
  • Llais cryg
  • Heintiau mynych ar y frest
  • Poen yn y frest
  • Yn fwy blinedig nag arfer
  • Colli archwaeth
  • Cyflwr ar yr ysgyfaint gyda symptomau yn newid

“Mae LUMEN yn rhoi mynediad uniongyrchol i bobl sy’n profi problemau anadlol at nyrs arbenigol sy’n gallu trafod eu symptomau, ac os yw’n briodol, eu cyfeirio am ymchwiliad pellach."

“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod cyfradd goroesi canser yr ysgyfaint yn cael ei gwella trwy ganfod yn gynnar.”

Patricia Rees, Nyrs Brysbennu Canser yr Ysgyfaint

Fel rhan o’r gwasanaeth, efallai y cewch eich atgyfeirio am belydr-X o’r frest, os oes angen, i ymchwilio i symptomau ar Fws Arloesi Anadlol Cymru (RIW) a fydd yn ymweld â threfi ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Digwyddiad galw heibio yw hwn ac nid oes angen apwyntiad arnoch i ymweld â ni.

  • Dydd Mawrth 25 Ebrill 2023, o 9.00am tan 3.00pm yn Parc Y Scarlets, Llanelli, SA14 9UZ
  • Dydd Mawrth 2 Mai 2023, o 9.00am tan 3.00pm ym Maes Parcio Morrisons, Hwlffordd, SA61 2EX

Cysylltu â ni

Os ydych chi, aelod o'r teulu, neu ffrind yn 40 oed neu'n hŷn a bod gennych unrhyw un o'r symptomau uchod, gallwch gael mynediad at LUMEN drwy ffonio 0300 3036142 neu ymweld â Bws RIW. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am tan 2.00pm. Os nad ydych yn gallu ymweld â Bws RIW ar gyfer y sioe deithiol, mae LUMEN yn wasanaeth ffôn a gellir gwneud asesiad dros y ffôn gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.